Contribution to the Debate on the Arts and Creative Industries in Wales
Dydd Mercher, 23 Ionawr 2013/ Wednesday, 16 January 2013
Mark Drakeford: Diolch am y cyfle i wneud cyfraniad byr i’r ddadl hon. Mae pwysigrwydd y diwydiannau creadigol i Gymru yn amlwg iawn, a chytunaf â llawer o’r hyn sydd wedi’i ddweud eisoes y prynhawn yma, yn enwedig yr hyn a ddywedodd Alun Ffred Jones wrth agor y ddadl. Hoffwn ganolbwyntio ar y maes anodd presennol sydd wedi’i nodi yn y cynnig o ran datblygu system breindaliadau hawliau perfformio i Gymru. Yn yr un modd ag Aelodau eraill, rwyf wedi bod mewn sawl cyfarfod yn y Senedd lle mae’r BBC ac Eos wedi cael y cyfle i esbonio’r anghydfod presennol rhyngddynt o’u safbwyntiau gwahanol eu hunain. I rywun fel fi, sydd y tu allan i'r diwydiant yn gwrando ar y safbwyntiau hyn, mae’n dod yn amlwg yn fuan bod hanes cymhleth y tu ôl i’r sefyllfa heddiw. Mae anawsterau heddiw yn deillio o’r penderfyniad a wnaed gan y Gymdeithas Hawliau Perfformio yn 2006. Wrth edrych yn ôl, mae’n ymddangos nad oedd y rhai a wnaeth y penderfyniadau hynny, ar y gorau, yn ymwybodol o oblygiadau’r penderfyniad neu, ar y gwaethaf, yn gwbl ddi-hid ohonynt.
[Thank you for the opportunity to make a brief contribution to this debate. The importance Read more [...]
