Navigate / search

Rhaglen newydd i roi brechiad HPV i ddynion hoyw yng Nghymru

Bydd rhaglen newydd yn cael ei chyflwyno yng Nghymru i roi brechiad yn erbyn y Feirws Papiloma Dynol (HPV) i ddynion sy’n cael rhyw gyda dynion. Daw’r penderfyniad ar ôl i’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, sy’n rhoi cyngor annibynnol ac arbenigol i lywodraethau’r DU, argymell cyflwyno rhaglen o’r fath. Mae’r brechiad HPV yn diogelu pobl rhag mathau o’r feirws papiloma dynol sy’n gysylltiedig â chanser ceg y groth. Ers cyflwyno’r rhaglen frechu i ferched yn eu harddegau yn 2008, gwelwyd tystiolaeth y gallai brechu rhag HPV hefyd gynnig amddiffyniad rhag amrywiol fathau o ganser sydd o bosib yn fwy cyffredin ymysg dynion hoyw. Bydd y rhaglen newydd wedi’i thargedu at ddynion 16 – 45 oed sy’n cael rhyw gyda dynion ac sy’n mynychu clinigau iechyd rhywiol arbenigol. Argymhelliad arall gan y Cyd-bwyllgor oedd y dylid cynnig y brechiad i bobl eraill sydd mewn perygl, gan gynnwys dynion dros 45 oed sy’n cael rhyw gyda dynion, gweithwyr rhyw a dynion a menywod HIV positif fesul achos unigol. Mae’r Cyd-bwyllgor yn parhau i ystyried a fyddai’n fanteisiol cynnig y brechiad HPV i bob bachgen yn ei arddegau. Disgwylir argymhelliad yn gynnar yn 2017. Yn rhinwedd ei swydd fel y Gweinidog Iechyd Read more [...]

Cymru’n ailgylchu mwy nag unman arall yn y DU

Llywodraeth Cymru yn gweithredu i sicrhau mwy o dai fforddiadwy Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ei ymrwymiad i gefnogi landlordiaid cymdeithasol a chynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy yng Nghymru. Yn y Gyllideb Ddrafft yr wythnos ddiwethaf, addawodd Llywodraeth Cymru £21.7 miliwn yn ychwanegol i gynyddu nifer y tai cymdeithasol yng Nghymru. Mae disgwyl i’r buddsoddiad sylweddol hwn mewn cymdeithasau tai gefnogi’r gwaith o adeiladu mwy na 250 o dai fforddiadwy newydd, gan ddarparu llefydd diogel a braf i gannoedd o bobl fwyaf bregus Cymru. Yn ogystal â’r gefnogaeth uchod, mae’r Gweinidog Tai, Lesley Griffiths, wedi sicrhau landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru y bydd y polisi rhent cyfredol yn parhau’r flwyddyn nesaf. Mae’r penderfyniad hwn yn golygu y gall landlordiaid cymdeithasol barhau i fuddsoddi yn eu heiddo a sicrhau y caiff y cyflenwad o dai fforddiadwy yng Nghymru ei gynnal. Hefyd, mae’n caniatáu i landlordiaid cymdeithasol barhau i ddarparu’r gwasanaethau allweddol y maent yn eu darparu yn ogystal â chyfleoedd am swyddi a hyfforddiant. Mae hefyd yn eu galluogi i sicrhau eu bod yn bodloni safonau Llywodraeth Cymru o ran tai cymdeithasol. Dywedodd Lesley Griffiths: “Mae darparu cartref Read more [...]

Cymru’n ailgylchu mwy nag unman arall yn y DU

Mae Cymru'n ailgylchu mwy o wastraff cartref na phob gwlad arall yn y DU. Yn ôl Ystadegau'r DU am Wastraff a gyhoeddwyd gan Defra, ailgylchodd cartrefi yng Nghymru 54.8 y cant o'u gwastraff y llynedd (2014). Mae hyn yn cymharu â 44.8 y cant yn Lloegr, 43.6 y cant yng Ngogledd Iwerddon a 41 y cant yn yr Alban. Yn ystod y pedair blynedd ers i Defra gasglu'r data hwn, mae cartrefi yng Nghymru wedi gwella eu cyfradd ailgylchu o 44 y cant (yn 2010) i bron 55 y cant (yn 2014). Mae hynny bron yn ddeg pwynt canrannol yn uwch na'r cyfartaledd yn y DU (44.9). Dywedodd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Carl Sargeant, "Cymru yw'r unig wlad yn y DU i osod targedau ailgylchu statudol. Mae'r ffaith ein bod ni'n arwain y DU yn hyn o beth yn dangos bod ein gwaith yn talu ffordd. Mae awdurdodau lleol yng Nghymru eisoes wedi taro targed Ewrop i ailgylchu 50 y cant erbyn 2020. "Mae'n bwysig ein bod ni'n dal ati i ailgylchu i gael y manteision economaidd ac amgylcheddol rydym am eu cyflawni dros Gymru." Mae ein strategaeth drosfwaol, Tuag at Ddyfodol Diwastraff, yn nodi sut y byddwn yn rheoli gwastraff yng Nghymru i greu manteision i'n heconomi a'n lles cymdeithasol yn ogystal ag i’r amgylchedd. Mae’r strategaeth yn amlinellu’r camau Read more [...]